Enw'r Perfformiwr: Cadog

Enw'r Sioe: Cadog

Disgrifiad y Sioe

Perfformiad o gerddoriaeth Gwerin Amgen gan CADOG. Mae CADOG yn perfformio cerddoriaeth genre Folk-Jazz gan roi cynnig ei hun ar gerddoriaeth draddodiadol gymreig. Mae’r perfformiad yn cynnwys gitar, sacsaffôn, lleisiau a chlocsio traddodiadol.

Delwedd ar gyfer sioe


Ffurfiwyd y band gwerin Cadog i gystadlu ym Mrwydr y Bandiau Gwerin yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024. Enillodd Cadog y gystadleuaeth newydd yma! Mae’r ddau frawd, Iestyn a Morus, yn rhoi stamp eu hunain ar gerddoriaeth draddodiadol gyda chyfuniad o chwarae gitâr, sacsoffon, canu a chlocsio. Ers yr Eisteddfod, mae Cadog wedi perfformio fel rhan o daith PYST gyda Gwilym Bowen Rhys.