Enw'r Perfformiwr: Mewn Cymeriad/In Character
Enw'r Sioe: ISLWYN
Disgrifiad y Sioe
Nofelydd, Cerddor, Gwleidydd. Dros ganrif ers ei eni caiff awdur Wythnos yng Nghymru Fydd gyfle i deithio trwy amser i ganfod os cafodd yr hyn a broffwydodd ei wireddu. Wedi oeri'r gwaed cawn olwg ffres ar eicon o'n llenyddiaeth oedd yn llawn cymhlethdodau diddorol.
N/A
Posteri digidol
Mae Mewn Cymeriad yn gwmni theatr sy’n llwyfannu sioeau am gymeriadau a straeon o hanes Cymru
Pan gychwynnodd y cwmni nôl yn 2014, y bwriad oedd darparu sioeau rhyngweithiol, un dyn/un ferch, i ysgolion cynradd trwy Gymru gyfan, gan gynnig awr addysgiadol ac adloniadol i blant. Erbyn hyn, mae gan y cwmni ystod eang o gyflwyniadau dramatig ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol, yn blant ac oedolion, oll yn canolbwyntio ar gymeriad neu stori o hanes Cymru – o gyfnod y Celtiaid i gofnodi 20 mlynedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Man cychwyn yw’r sioeau ar gyfer astudiaeth bellach, ac i gydfynd â phob cymeriad mae pecyn addysgol/gweithgareddau wedi’i baratoi yn ofalus fel ei fod yn berthnasol i ofynion llythrennedd a rhifedd y cwricwlwm Cymreig, gan ddarparu adnoddau newydd i athrawon i addysgu ac i ysbrydoli plant i ddysgu mwy am hanes Cymru.
