Enw'r Perfformiwr: Harriet Earis
Enw'r Sioe: Harriet Earis & Monika Stadler
Disgrifiad y Sioe
Sioe ddwbl gyda dwy delynores byd enwog o Gyrmu ac Awstria, yn cymysgu cerddoriaeth Geltaidd a jazz.
Telynores Geltaidd sy’n byw yn Aberystwyth yw HARRIET EARIS, ac enillodd wobr Llwyfan Agored Danny Kyle yn Celtic Connections 2007. Perfformiodd ar ei phen ei hun yn y Neuadd Albert ac yn Arena 02 yn Llundain fel rhan o 'Young Voices' 2007, ac mae’n brysur iawn gyda theithiau cyson i UDA (gan ymweld â dros 25 talaith), yr Almaen, Ffrainc, yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, yr Eidal, Iwerddon a Chanada. Mae perfformiadau 2024 wedi cynnwys tair taith i'r Almaen a chyngerdd unawdol yn y Fringe yng Nghaeredin, yn ogystal â nifer o berfformiadau yng Nghymru a Lloegr. Mae hi'n perfformio fel unawdydd yn bennaf, ond hefyd mewn deuawd gyda gitarydd jazz Clovis Phillips, a deuawd gyda'r delynores jazz enwog Monika Stadler.