Enw'r Perfformiwr: Cleif Harpwood yng nghwmni Geraint Cynan
Enw'r Sioe: Cleif Harpwood yng nghwmni Geraint Cynan
Disgrifiad y Sioe
Noson acwstig ei naws, yn llais/lleisiau i gyfeiliant piano. Mae Cleif sy'n gyn aelod o'r grwpiau poblogaidd Edward H Dafis, Ac Eraill ac Injaroc yn cyflwyno hanes ei yrfa a'i fywyd, a chefndir caneuon fel 'Ysbryd y nos', 'Mistar Duw', 'Cân yn ofer', 'Pishyn' a 'Nia Ben aur'. Perfformir rhyw 14 o ganeuon i gyd gan Cleif a'r cerddor / cyfeilydd medrus Geraint Cynan. Yn 2025 fe fydd y ddeuawd yn cynnwys nifer o ganeuon newydd yn ei set yn sgil recordio casgliad newydd o gerddoriaeth.
Dim ond os yw'r adnodd ar gael yn y lleoliad. Goleuo l - spot ar gyfer y ddau berfformiwr. Cefndir tywyll. Cynigir cyfres o luniau i'w dangos ar gof bach neu gyfrifiadur os oes taflunydd i'w gael yn y lleoliad.
Bydd angen cyflenwad trydan agos i'r ardal berfformio. Bydd 2 - 3 soced 13 amp yn ddigonol.
Gellir perfformio mewn ardal o 3m x 3m, ond dymunir ardal ehangach os yn bosib, yn enwedig os ydym yn darparu system sain ein hunain. Gellid gosod a phrofi sain o fewn 45 munud - 60 munud
Dim ond llun a phwt o ddisgrifiad o gynnwys y noson
Canwr gwerin a roc a rol. Cyn aelod o'r grwpiau Ac Eraill, Edward H Dafis, Injaroc a H a'r Band (2012 - 2020). Fe oedd yr Osian gwreiddiol yn yr opera roc 'Nia Ben Aur'.
Mae Cleif yn perfformio sesiynau acwstig yng nghwmni y cerddor adnabyddus Geraint Cynan. Mae eu cyflwyniad yn cynnwys caneuon poblogaidd o'r 1970au, fel 'Ysbryd y Nos', 'Mistar Duw', 'Cân yn ofer' a lllawer mwy o ganeuon cyfarwydd y cyfnod.
Mae Cleif yn cyflwyno hanes y grwpiau poblogaidd hyn, ynghyd a hanesion personol o'i gyfrol diweddar 'Breuddwyd Roc a Rôl'. Noson ddifyr o ganeuon ac atgofion oddeutu 2 awr o hyd.