Enw'r Perfformiwr: Mari Mathias
Enw'r Sioe: Mari Mathias
Disgrifiad y Sioe
Cantores-gyfansoddwraig werin/indie ifanc yw Mari Mathias sy’n dod â sain gyfoes ffres i ganeuon gwerin traddodiadol a deunydd gwreiddiol. Cafodd ei geni a'i magu yng Ngorllewin Cymru ac mae wedi datblygu ei steil cerddorol ar ôl chwarae gyda bandiau amrywiol drwy gydol ei harddegau, gan ennill cydnabyddiaeth eang yn y sin gerddoriaeth Gymraeg. Dros y blynyddoedd diwethaf mae Mari Mathias wedi rhannu llwyfan fel cefnogaeth i artistiaid cyffrous fel Gruff Rhys a Meic Stevens. Mae hi wedi perfformio mewn nifer o ddigwyddiadau gan gynnwys; Gwyl Immersed, Clwb Ifor Bach & Gwyl The Big Cwtch. Rhyddhawyd ei EP “Ysbryd y ty” ddechrau’r flwyddyn, gyda chefnogaeth JIGCAL Records ac wedi ennill BBC Brwydr y Bandiau yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Canwr Cymraeg Gwerin