Worldwide Welshman
Lleoliad y digwyddiad: Haverhub CIC
Dyddiad y digwyddiad
Amser y digwyddiad
Enw'r sioe: Worldwide Welshman a'r band mawr
Prosiect cerddorol global-alt-pop a chomedi ydi Worldwide Welshman, wedi ei arwain gan Liam Rickard, cerddor-cyfansoddwr ac arlunydd o Fetws-y-coed sydd bellach yn byw ym Machynlleth. Yn 2015, symudodd Liam o Fetws-y-Coed yn Lundain i ddilyn ei freuddwyd o greu band rhyngwladol traws-genre. Yna, dechreodd y fand Worldwide Welshman & Beyond gyda cerddorion o’r sîn jamio yn nwyrain Llundian. Symudodd Liam nôl i Gymru 2021, ac ers hynny mae o wedi bod yn cydweithio efo griw o cerddorion talentog yn Nyffryn Dyfi. Mae caneuon Worldwide Welshman yn defnyddio sawl iaith wahanol ac yn delio gydag amrywiaeth eang o themâu yn cynnwys y newid hinsawdd, iechyd meddwl, cognitive dissonance, hufen croen ffug-gwyddoniaethol, a space tourism, yn ogystal a’r themau traddodiadol fel cariad a godineb. Mae Liam yn perfformio ar ben ei hun a gyda fand, ac mae o wedi cydweithio gyda cherddorion o bob cwr y byd. Bydd rhai pobl yn ei adnabod fel aelod o'r grŵp Lo-fi Jones. Mae'r Cymro Rhwngwladol a'i leinups gwahanol wedi bod yn difyrru cynulleidfaoedd mewn tafarnau, clybiau, gwyliau, gaffis, gerddi cymunedol, stafelloedd byw, cychod a sgwatiau ar draws Ewrop gyda'u chaneuon tragi-comig, amlieithog, doniol a ddawnsiadwy, yn ogystal â chaneuon gwerin o Gymru a thu hwnt.
Enw’r perfformiwr: Worldwide Welshman
Tocynnau
Math o docynnau | Pris (£) |
---|---|
Safonal | £8.00 |
I brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiad, cysylltwch â:
anna@haverhub.org.uk
Gwefan Tocynnau:
Manylion y lleoliad
Cyfeiriad
Haverhub
12 Quay Street
Haverfordwest
Sir Benfro
SA61 1BG