Meinir Gwilym + Three legg'd Mare

Lleoliad y digwyddiad: Y Wynnstay

Dyddiad y digwyddiad

Amser y digwyddiad

Image for show

Enw'r sioe: Meinir Gwilym

Meinir yn perfformio yn unigol

Enw’r perfformiwr: Meinir Gwilym

Yn enedigol o blwyf Llangristiolus yng nghalon Ynys Môn oddi ar arfordir Gogledd Cymru, mae’r gantores/gyfansoddwraig Meinir Gwilym wedi sicrhau lle iddi ei hun fel un o’r artistiaid cyfrwng Cymraeg mwyaf poblogaidd erioed. Ysgogodd rhyddhau ei CD gyntaf Smôcs, Coffi a Fodca Rhad (2002) ymateb ysgubol, gyda’r llais unigryw a’r geiriau gonest, y gwead o sain celtaidd/acwstig/roc-gwerin/pop, cafodd ei chofleidio yn un o’r casgliadau mwyaf gwreiddiol ac ysbrydoledig i ddod allan o Gyrmu ers blynyddoedd. Gwerthwyd miloedd o gopiau o’r albym ddilynol Dim ond Clwydda o fewn ychydig fisoedd i’w rhyddhau yn Nhachwedd 2003. Mae Meinir Gwilym wedi ymddangos ar lwyfannau pob un o brif wyliau Cymru, yn cynnwys Sesiwn Fawr Dolgellau, Maes B, Sioe Fawr Llanelwedd a G?yl y Faenol Bryn Terfel yn 2003 a 2005. Perfformia gyda’i band aml-ddiwylliannol mewn lleoliadau mawrion neu ar ei phen ei hun, yn acwstig mewn digwyddiadau llai.

Tocynnau


Math o docynnau Pris (£)
Safonal £10.00

I brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiad, cysylltwch â:

Wynnstay Hotel croeso@wynnstay.wales


Gwefan Tocynnau:

https://N/A

Manylion y lleoliad


Cyfeiriad

Y Wynnstay
Heo Maengwyn
Machynlleth
Sir Powys
SY20 8AE