Perlysiau Sanctaidd Prydain /SacredHerbs of Britain

Lleoliad y digwyddiad: St Collen's Community Hall

Dyddiad y digwyddiad

Amser y digwyddiad

Image for show

Enw'r sioe: Sacred Herbs of Britain / Perlysiau Santaidd Prydain

PERLYSIAU SANCTAIDD PRYDAIN - Ymunwch â Claire Mace am ailadroddiad dwyieithog o stori Olwen, merch y cawr yr oedd ei gwallt yn felynach na'r banadl a’i bochau’n gochach na blodau bysedd y cŵn. Ble bynnag mae’n cerdded mae’n gadael meillion gwyn o’i hôl. Hi yw arwres “Culhwch ac Olwen” stori o lawysgrifau canoloesol, Y Mabinogion. Dyma diriogaeth Olwen, a ysbrydolwyd gan lên gwerin o bob cwr o Gymru. Plethir mytholeg, hud a lledrith, llên lysieuol, chwedlau gwerin, storïau’r coed a phlanhigion ynghyd i ddarlunio'i thirwedd. Cafodd y perfformiad chwedleua traddodiadol hwn o’r stori ei ddatblygu diolch i Wobr Esyllt gan Chwedl, rhwydwaith o chwedlwragedd yng Nghymru

Enw’r perfformiwr: Claire Mace

Ganed y gantores, storïwraig, a dysgwraig Gymraeg, Claire Mace, ger Aberdeen, ond mae hi’n bellach wedi lleoli ym Methesda. Mae hi wedi’i hudo gan hen ganeuon a straeon a’u pŵer i’n helpu ni i ddod o hyd i’n ffordd yn yr amser presennol.

Tocynnau


Math o docynnau Pris (£)
Safonal £5.00
Consesiwn £4.00

I brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiad, cysylltwch â:

On the door and the Fringe website


Gwefan Tocynnau:

https://llangollenfringe.co.uk/index.php/en/what-s-on/main-events/festival-ticket-2025

Manylion y lleoliad


Cyfeiriad

St Collen's Community Hall
Regent Street
Llangollen
Sir Ddinbych
LL20 8HU