Stars and their Consolations

Lleoliad y digwyddiad: Henbant

Dyddiad y digwyddiad

Amser y digwyddiad

Image for show

Enw'r sioe: Stars and their Consolations

Mae "Stars and their Consolations" yn ail-gyflwyniad mawreddog, personol a hypnotig o chwedlau Groegaidd sy’n plethu straeon hynafol, ac a adroddir yn gywrain gan y storïwyr o fri, Daniel Morden a Hugh Lupton. Mae’n cynnwys seinwedd electro-acwstig iasol a grëwyd gan y cyfansoddwr o Gymru, Sarah Lianne Lewis. Dyma ffordd arbennig a hygyrch i brofi straeon a rannwyd wrth y pentan am ganrifoedd. Teithiwch i awyr y nos gyda straeon sydd wedi goleuo’r tywyllwch ers miloedd o flynyddoedd. Daw chwedlau Groegaidd am gytserau, megis Orion a Pegasus, a’r Llwybr Llaethog, yn fyw drwy’r antur swynol a hudol hwn. Gwyliwch y duwiau’n chwarae’n ddidrugaredd gyda marwolion, gyda straeon am chwant, balchder ac angerdd. Bydd y cyfan yn eich gadael ar bigau’r draen eisiau darganfod mwy.

Enw’r perfformiwr: Adverse Camber in association with Theatrau Sir Gâr

Mae Adverse Camber yn angerddol am storïau, cerddoriaeth ac artistiaid eithriadol sy’n anadlu anadl einioes iddynt. Rydym yn cefnogi, datblygu a theithio gyda pherfformiadau byw ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban i godi ymwybyddiaeth o gyfoeth diwylliannau llafar a’r artistiaid cyfoes rhagorol sy’n cael eu hysbrydoli gan y deunydd yma. Mae canolfan ein cwmni yn Nyffryn Derwent sy’n safle treftadaeth byd, yn Cromford, Swydd Derby. Rydym yn gweithio’n glos gyda phartneriaid yng Nghymru, gan gynnwys aelodau creadigol o’r tîm a’r partneriaid sefydliadol diweddar Bando, Felin Uchaf, Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth, Canolfan Chwedleua George Ewart Evans, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd ac artistiaid unigol yn cynnwys Phil Okwedy, Daniel Morden, Tamar Eluned Williams, Michael Harvey, Kestrel Morton ac eraill. Ein taith ddiweddaraf yng Nghymru oedd “The Gods Are All Here” Phil Okwedy. Rydym hefyd wedi cefnogi ffurfio Bando, sy’n cynnig cefnogaeth gynhyrchu wrth i’r cwmni newydd hwn ffurfio a theithio gyda Y Llyn. Mae gennym nifer o brosiectau newydd yn cael eu datblygu. Rydym wedi derbyn cymorth gan amrywiaeth o gyllidwyr gan gynnwys nifer o grantiau gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Arts Council England, cyllidwyr y Loteri Genedlaethol gan gynnwys y Gronfa Dreftadaeth, Arian i Bawb ac Ymddiriedolaethau.

Tocynnau


Math o docynnau Pris (£)
Safonal £12.00
Consesiwn £8.00

I brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiad, cysylltwch â:

Venue + Online


Gwefan Tocynnau:

https://buytickets.at/henbant/1909878

Manylion y lleoliad


Cyfeiriad

Henbant
Tain Lon, Glynnog
Caernarfon
Gwynedd
LL54 5DF