Twrw yn y Tarw
Lleoliad y digwyddiad: The Bull Hotel Abergele
Dyddiad y digwyddiad
Amser y digwyddiad
Enw'r sioe: Morgan Elwy Band
Mae Morgan Elwy a'r band yn perfformio cymysgedd o reggae, blues a rock Cymraeg. Mae'r band wedi dod yn ffefrynnau gwyliau Cerddorol yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf ac yn barod i rocio unrhyw lwyfan unrhyw amser!
Enw’r perfformiwr: Morgan Elwy a'r Band
Mae Morgan Elwy a’r criw fel cerbyd sydd yn ein cysylltu trwy iaith fyd-eang cerddoriaeth a diwylliant. Mae’r caneuon fel neges o heddwch sy’n atseinio fel pontydd yn ymestyn o dirwedd Hiraethog Cymru i galon rythmig reggae. Gyda rhythmau roots rock cadarn, alawon cofiadwy, a harmonïau hyfryd, maent yn uno cyfuniad o reggae a Chymreictod wedi’i wreiddio’n ddwfn ym mryniau Gogledd Cymru. Ers ennill Cân i Gymru hefo’r clasur Bach O Hwne mae Morgan Elwy a’r band wedi bod yn perfformio ac yn rhyddhau prosiectau newydd yn rheolaidd. Maent bellach yn ffefrynnau ar gyfer gwyliau cerddorol Cymraeg gan rockio rhai o lwyfannau amlycaf Cymru yn ogystal â sefydlu ei hunain fel lysgennad answyddogol o’r sîn tanddaearol reggae a Dub yng Nghymru.
Tocynnau
| Math o docynnau | Pris (£) |
|---|---|
| Teulu | £24.50 |
| Safonal | £10.00 |
| Consesiwn | £5.00 |
I brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiad, cysylltwch â:
Bull Hotel, Abergele
Gwefan Tocynnau:
Manylion y lleoliad
Cyfeiriad
Chapel Street
Abergele
Conwy
LL22 7AW
