Gwen y Witch
Lleoliad y digwyddiad: Neuadd yr Hafod Gorsgoch Llanybydder
Dyddiad y digwyddiad
Amser y digwyddiad
Enw'r sioe: Gwen y Witch
Drama am fywyd Gwen ferch Ellis o Landyrnog, y cyntaf o bump a grogwyd yng Nghymru am goel gwrach yn y 16eg a'r 17eg ganrif.
Enw’r perfformiwr: Mewn Cymeriad/In Character
Mae Mewn Cymeriad yn gwmni theatr sy’n llwyfannu sioeau am gymeriadau a straeon o hanes Cymru Pan gychwynnodd y cwmni nôl yn 2014, y bwriad oedd darparu sioeau rhyngweithiol, un dyn/un ferch, i ysgolion cynradd trwy Gymru gyfan, gan gynnig awr addysgiadol ac adloniadol i blant. Erbyn hyn, mae gan y cwmni ystod eang o gyflwyniadau dramatig ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol, yn blant ac oedolion, oll yn canolbwyntio ar gymeriad neu stori o hanes Cymru – o gyfnod y Celtiaid i gofnodi 20 mlynedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Man cychwyn yw’r sioeau ar gyfer astudiaeth bellach, ac i gydfynd â phob cymeriad mae pecyn addysgol/gweithgareddau wedi’i baratoi yn ofalus fel ei fod yn berthnasol i ofynion llythrennedd a rhifedd y cwricwlwm Cymreig, gan ddarparu adnoddau newydd i athrawon i addysgu ac i ysbrydoli plant i ddysgu mwy am hanes Cymru.
Tocynnau
Math o docynnau | Pris (£) |
---|---|
Safonal | £10.00 |
Consesiwn | £5.00 |
I brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiad, cysylltwch â:
mewncymeriad.cymru
Gwefan Tocynnau:
Manylion y lleoliad
Cyfeiriad
Neuadd yr Hafod
Gorsgoch
Llanybydder
Ceredigion
SA40 9TE





