Pagliacci - Clowns

Lleoliad y digwyddiad: Neuadd Goffa Criccieth Memorial Hall

Dyddiad y digwyddiad

Amser y digwyddiad

Image for show

Enw'r sioe: Pagliacci - Clowns

Cerddoriaeth a Libreto Ruggero Leoncavallo Cyfieithiad Saesneg Richard Studer Trefniant Siambr Jonathan Lyness Cyfarwyddwr/Cynllunydd Richard Studer Cyfarwyddwr Cerdd Jonathan Lyness Mae Opera Canolbarth Cymru yn ôl ar daith yn yr hydref eleni gydag opera ias a chyffro enwog Leoncavallo ‘Pagliacci’, neu ‘Clowns '. Mae Canio, arweinydd grŵp teithiol o actorion comedi, yn darganfod bod ei wraig Nedda yn cael perthynas gydag un o'r perfformwyr eraill. Ond cyn darganfod pa berfformiwr, rhaid iddo fynd ar y llwyfan a chwarae rhan… gŵr anobeithiol y mae ei wraig yn twyllo arno. Daw'r perfformiad i ben gyda'r realiti'n cael ei gymylu'n frawychus nes bod y llinell rhwng y perfformiad llwyfan a bywyd go iawn yn aneglur ac yn dychryn y gynulleidfa sy'n gwylio. Mae Pagliacci, sy’n llawn cerddoriaeth syfrdanol, yn dal gafael yn ei statws cwlt fel y 'ddrama-o-fewn-drama‘ operatig eithaf. Mae cynhyrchiad newydd Opera Canolbarth Cymru yn cynnwys cast o 5 canwr a 5 cerddor, gyda chyfieithiad Saesneg newydd gan Richard Studer, a threfniant siambr newydd gan Jonathan Lyness. Fel gyda LlwyfannauLlai, bydd yr opera yn digwydd yn hanner cyntaf y noson yn unig. Bydd yr ail hanner yn cynnwys cabaret newydd o eitemau cerddorol poblogaidd a difyr sy'n cynnwys yr holl gantorion a'r cerddorion i'r gynulleidfa gael noson i’w chofio. Hanner cyntaf 55 mun Ail hanner 40 munud

Enw’r perfformiwr: Mid Wales Opera Canolbarth Cymru

"Sefydlwyd Opera Canolbarth Cymru (OCC) yn 1988 gyda’r bwriad o fod un o’r cwmniau teithio mwyaf blaenllaw yn y byd opera ym Mhrydain. Mae OCC wedi derbyn nifer o wobrau gan gynnwys dwy wobr Prudential ar gyfer ""rhagoriaeth, creadigrwydd, arloesedd a hygyrchedd"". Mae'r cwmni bellach wedi perfformio mewn 80 o leoliadau ledled Prydain ac Iwerddon. Mae rhai o'n cynyrchiadau mwyaf uchelgeisiol, megis Turandot, Aida, Carmen a Madama Butterfly, wedi rhoi llwyfan i unawdwyr rhyngwladol Covent Garden, yn ogystal â thalentau o’r cwmniau opera cenedlaethol yng Nghymru, yr Alban a Lloegr. Mae'r cynyrchiadau llai sydd yn teithio o un theatr i’r llall yn hynod boblogaidd ac mae nifer y lleoliadau a ddefnyddiwn yn dal i gynyddu. Mae’r cwmni yn teithio i fwy o lefydd nag unrhyw gwmni arall ym Mhrydain, o'r Tŷ Opera gosgeiddig yn Buxton i theatrau mwy cartrefol megis Theatr Pontardawe. Mae'r cwmni yn cael croeso cynnes ym mhob man ac mae’r rhai sy’n ymddiddori mewn opera yn edrych ymlaen yn eiddgar at ymweliad blynyddol y cwmni. "

Tocynnau


Math o docynnau Pris (£)
Safonal £15.00
Consesiwn £12.00
Consesiwn £5.00

I brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiad, cysylltwch â:

1.9.2024


Gwefan Tocynnau:

www.ticketsource.co.uk/cmh

Manylion y lleoliad


Cyfeiriad

Neuadd Goffa Criccieth Memorial Hall
Criccieth
Gwynedd
LL52 0HB