Mid Wales Opera

Lleoliad y digwyddiad: Neuadd Dyfi

Dyddiad y digwyddiad

Amser y digwyddiad

Image for show

Enw'r sioe: Trouble in Tahiti

TROUBLE IN TAHITI Cerddoriaeth a Libreto: Leonard Bernstein Trefniant Siambr gan Bernard Yannotta Mae opera un act Bernstein yn ddadansoddiad cain o'r Freuddwyd Americanaidd wych, trwy lygaid Sam a Dinah yn nhŷ Pastel a phriodas ffens polion gwyn yr 1950au. Mae triawd 'scat' Jazz yn rhoi sylwebaeth wrth i'r cwpl osgoi realiti eu perthynas. I Sam mae'n golygu ei gyfeillion yn y gampfa a'i waith, ac i Dinah ei therapydd a dihangfa ogoneddus Hollywood – a oes bywyd ar ôl yn eu 'priodas berffaith'? Wedi'i pherfformio yn nhrefniant siambr Yannotta ar gyfer saith offerynwr, gyda chast o bump dan arweiniad Cyfarwyddwr Cerdd OCC o'r piano, mae'r opera'n llenwi hanner cyntaf y noson, gyda'r ail hanner yn dathlu opera a theatr gerddorol Americanaidd, gyda thema Y Freuddwyd Americanaidd, yn cynnwys yr holl berfformwyr.

Enw’r perfformiwr: Mid Wales Opera Canolbarth Cymru

"Sefydlwyd Opera Canolbarth Cymru (OCC) yn 1988 gyda’r bwriad o fod un o’r cwmniau teithio mwyaf blaenllaw yn y byd opera ym Mhrydain. Mae OCC wedi derbyn nifer o wobrau gan gynnwys dwy wobr Prudential ar gyfer ""rhagoriaeth, creadigrwydd, arloesedd a hygyrchedd"". Mae'r cwmni bellach wedi perfformio mewn 80 o leoliadau ledled Prydain ac Iwerddon. Mae rhai o'n cynyrchiadau mwyaf uchelgeisiol, megis Turandot, Aida, Carmen a Madama Butterfly, wedi rhoi llwyfan i unawdwyr rhyngwladol Covent Garden, yn ogystal â thalentau o’r cwmniau opera cenedlaethol yng Nghymru, yr Alban a Lloegr. Mae'r cynyrchiadau llai sydd yn teithio o un theatr i’r llall yn hynod boblogaidd ac mae nifer y lleoliadau a ddefnyddiwn yn dal i gynyddu. Mae’r cwmni yn teithio i fwy o lefydd nag unrhyw gwmni arall ym Mhrydain, o'r Tŷ Opera gosgeiddig yn Buxton i theatrau mwy cartrefol megis Theatr Pontardawe. Mae'r cwmni yn cael croeso cynnes ym mhob man ac mae’r rhai sy’n ymddiddori mewn opera yn edrych ymlaen yn eiddgar at ymweliad blynyddol y cwmni. "

Tocynnau


Math o docynnau Pris (£)
Safonal £16.00
Consesiwn £6.00

I brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiad, cysylltwch â:

mail@neuadddyfi.co.uk


Gwefan Tocynnau:

https://www.neuadddyfi.org/

Manylion y lleoliad


Cyfeiriad

Neuadd Dyfi
Penrhos
Aberdyfi
Gwynedd
LL35 0NR