Sgen ti Syniad

Lleoliad y digwyddiad: Neuadd Ddinesig San Pedr, Caerfyrddin

Dyddiad y digwyddiad

Amser y digwyddiad

Image for show

Enw'r sioe: 3 Drama : 99'er, Wisgi a Dishgled ‘da Del

Mae 4 awdur wedi eu comisiynu i ‘sgwennu pedair comedi/drama ysgafn yn sgil prosiect Sgen ti Syniad? (2) Bydd 3 yn teithio yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill:- Dishgled ‘da Del - Cai Llewelyn Evans Wisgi - Carwyn Blayney 99'er - Ceri Ashe CAST 3 awdur + 3 drama = 5 actor (9 cymeriad)! Byddwn yn croesawu Siôn Emyr a Mali O’Donnell nôl at y Cwmni; piciodd Mark Henry-Davies mewn am benwythnos o waith Y&D ar y dramâu; a dyma’r tro cyntaf bydd Elena Carys-Thomas a Gareth John Bale yn gweithio hefo ni. Bydd Gareth hefyd yn cyfarwyddo un o’r dramau. Ffrwyth llafur cynllun 'Sgen ti Syniad? yw hwn, cynllun sy’n rhoi cyfle gwych i ni weithio gyda nifer o ymarferwyr â phosib a rhoi llwyfan i ddoniau hen a newydd!

Enw’r perfformiwr: Theatr Bara Caws

Cwmni Theatr Cymuned Proffesiynol Cymraeg yw Theatr Bara Caws. O’i gartref yng Nghaernarfon mae’r cwmni wedi bod yn cynnig cynyrchiadau wedi eu cynllunio a’u perfformio yn arbennig i gynulleidfaoedd Cymraeg yn eu cymunedau ers dros 45 mlyned. Mae Theatr Bara Caws yn gwmni cydweithredol sydd â chnewyllyn parhaol o 5 aelod llawn amser cyflogedig. Gweinyddir y cwmni o dan oruchwyliaeth bwrdd rheoli, a chaiff ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Chyngor Gwynedd, Chyngor Môn, a nifer o Gynghorau Cymuned. Bu’n gofrestredig fel elusen ers 1977. Er mai Gwynedd yw ein dalgylch naturiol, mae Bara Caws yn teithio Cymru gyfan yn rheolaidd, yn perfformio mewn neuaddau pentref, canolfannau cymdeithasol, theatrau, ysgolion a chlybiau gan fynd â’n cynyrchiadau i ardaloedd sydd wedi eu hamddifadu o theatr broffesiynol fyw. Cynigir y perfformiadau am ffi resymol i unrhyw gymdeithas neu fudiad sydd yn dymuno gwahodd Bara Caws i’w hardal. Disgwylir i’r mudiadau sicrhau canolfan addas, dosbarthu tocynnau a hybu’r cynhyrchiad yn lleol gyda phosteri a deunydd marchnata a baratoir gan y cwmni. Mae unrhyw elw ddaw o’r nosweithiau yn mynd yn syth i achosion da lleol. Tros y blynyddoedd mae Bara Caws wedi creu rhwydwaith cryf o drefnwyr dros Gymru i gyd a phob amser yn awyddus i glywed gan unigolion sy’n fodlon mentro. Teimlwn fod y system hon o drefnu yn gweithio cystal gan fod y trefnwyr lleol gymaint mwy cyfarwydd â’u milltir sgwâr, ei disgwyliadau a’i chynulleidfaoedd. O ganlyniad mae trefnydd da yn gweithredu fel dolen gyswllt rhwng Bara Caws a’r gymuned, gan sicrhau cynulleidfaoedd cryfach a nosweithiau llwyddiannus. Mae Bara Caws yn llwyfannu o leiaf tri chynhyrchiad y flwyddyn, gyda’r arlwy yn cynnwys amrediad eang o ddeunydd, o gomedïau teuluol a dramâu ysgafn i sgwennu newydd heriol ac wrth gwrs ein sioeau clybiau. Nod y cwmni yw cyflwyno gwaith gwreiddiol a pherthnasol i’r trawstoriad ehangaf bosib.

Tocynnau


Math o docynnau Pris (£)
Safonal £15.00

I brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiad, cysylltwch â:

mari@mgsg.cymru 01239712934


Gwefan Tocynnau:

https://www.surveymonkey.com/r/3Drama

Manylion y lleoliad


Cyfeiriad

1 Sgwâr Nott
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA31 1PG