Ledi'r Wyrcws
Lleoliad y digwyddiad: Theatr Twm o'r Nant
Dyddiad y digwyddiad
Amser y digwyddiad
Enw'r sioe: Ledi'r Wyrcws
Crynodeb: Mae’n 1955, oes yr NHS newydd, ond mae’r wyrcws yn sefyll o hyd, a rhai o’i drigolion yn garcharorion tlodi ers hanner canrif a mwy. Daw dwy fenyw o gefndiroedd hollol wahanol wyneb yn wyneb, y naill yn cludo traddodiad a’r llall yn gobeithio diogelu’r traddodiad hwnnw. Ond wrth ganu, recordio a thrafod caneuon gwerin, daw hanes cudd i’r golwg. Y cast: Morfudd Hughes, Owen Arwyn a Judith Humphreys Cynhyrchu: Galeri, Caernarfon.
Enw’r perfformiwr: Sioned Huws
Crynodeb: Mae’n 1955, oes yr NHS newydd, ond mae’r wyrcws yn sefyll o hyd, a rhai o’i drigolion yn garcharorion tlodi ers hanner canrif a mwy. Daw dwy fenyw o gefndiroedd hollol wahanol wyneb yn wyneb, y naill yn cludo traddodiad a’r llall yn gobeithio diogelu’r traddodiad hwnnw. Ond wrth ganu, recordio a thrafod caneuon gwerin, daw hanes cudd i’r golwg. Y cast: Morfudd Hughes, Owen Arwyn a Judith Humphreys Cynhyrchu: Galeri, Caernarfon. Perfformiwyd LEDI’R WYRCWS deirgwaith ym mis Ionawr 2025, gyda pherfformiadau nos yn Galeri a Neuadd Dwyfor (Pwllheli) bron yn gwerthu allan, a thros 90 tocyn yn mynd ar gyfer perfformiad matinê yn Galeri. Roedd yr ymateb yn ardderchog; er enghraifft, dywedodd un aelod o'r gynulleifa a'i gwelodd hi yn Galeri hyn amdani: 'drama hollol wych - wedi mwynhau'n fawr - cynnil, slic, trist, pwerus a llawer mwy - mae angen mynd a hon ar daith!' A dyma farn adolygydd a’i gwelodd hi yn Neuadd Dwyfor: ‘Drama i’w phrofi sawl gwaith drosodd yw hon, a’r plygiadau ynddi yn amlygu eu hystyron o’r newydd. Drama i’n procio a’n pryfocio ac i herio rhagdybiaethau salw ein cyfnod enbyd ni. Drama hanesyddol a hynod gyfoes ar yr un pryd. Mae cymaint yn y ddrama hon fel ei bod yn anodd gwybod lle mae dechrau ei thrafod.’
Tocynnau
| Math o docynnau | Pris (£) |
|---|---|
| Safonal | £12.00 |
I brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiad, cysylltwch â:
Siop Clwyd; 01745 812349; 07792315723
Gwefan Tocynnau:
Manylion y lleoliad
Cyfeiriad
Theatr Twm o'r Nant
2 Station Road
Denbigh
Sir Ddinbych
LL16 3DA
