The Gentle Good

Lleoliad y digwyddiad: Llanelly HIll Community Centre

Dyddiad y digwyddiad

Amser y digwyddiad

Image for show

Enw'r sioe: The Gentle Good

The Gentle Good yw llysenw’r cerddor a’r cyfansoddwr o Gaerdydd, Gareth Bonello. Mae Gareth yn adnabyddus am ei alawon swynol, ei ledrith ar y gitâr a’i drefniadau acwstig hardd. Fel cyn-enillydd o wobrau albwm y flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig, mae Gareth eisoes yn gerddor blaenllaw ar y sîn Gymreig. Portread seicedelig o Gwm Elan ym Mhowys yw albwm newydd The Gentle Good, Elan. Fe’i hysgrifennwyd yn ystod cymrodoriaeth blwyddyn o hyd ymysg Mynyddoedd Cambria. Mae’r albwm yn archwilio tirwedd, hanes a gwleidyddiaeth y cwm, a gafodd ei foddi ar ddiwedd oes Fictoria i greu cyfres o gronfeydd ar gyfer dŵr yfed. Mae’n cynnwys band llawn, synths a llinynnau ac yn denu ar ddylanwadau roc, gwerin, seic a pop i dalu teyrnged gerddorol i dirwedd ddramatig Elan. Artist profiadol yw Gareth, sydd wedi perfformio ledled y byd, o’r Smithsonian Folklife Festival yn Washington DC i’r Forbidden City Concert Hall yn Beijing. Mae wedi teithio'n helaeth yn y DU hefyd, gan berfformio mewn gwyliau amlwg fel Glastonbury, The Green Man, Latitude a Cambridge Folk. Mae ei weithiau diweddar yn cynnwys yr albwm Galargan, archwiliad dwys o ganeuon werin Gymreig a gafodd adolygiad 5 seren yn y Guardian. Dros y blynyddoedd diwethaf mae Gareth wedi dod yn gydweithiwr cerddorol uchel ei barch, ar ôl gweithio'n helaeth gydag artistiaid o Tsieina ac India. Torrodd ei albwm nodedig Y Bardd Anfarwol (2013) dir newydd gyda'i gyfuniad unigryw o storïo yn y Gymraeg a cherddoriaeth draddodiadol Tsieineaidd. Mae’n aelod o'r Khasi-Cymru Collective gydag artistiaid o gymunedau Khasi Ogledd-ddwyrain India. Yn nes at adref, yn 2025 bu Gareth yn gweithio gydag Opera Cenedlaethol Cymru a’r gymuned pysgota yng Nghymru a Chernyw i gyfansoddi darnau clasurol newydd ar gyfer y prosiect Sea Interludes. Am lond sach o wybodaeth ychwanegol ewch i www.thegentlegood.com

Enw’r perfformiwr: The Gentle Good

Enw lwyfan Gareth Bonello, y cerddor o’r brifddinas ydy The Gentle Good. Yn adnabyddus am ei alawon hudolus, drefniadau acwstig hardd a’i arddull gywrain ar y gitâr, Gareth yw un o gantorion amlycaf Cymru. Mae recordiau The Gentle Good wedi derbyn llond sach o glod. Mae'n gyn-enillydd o wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Gwobr Gerddoriaeth Gymreig. Cafodd ei albwm Galargan yn 2023 adolygiad 5 seren yn y Guardian ac fe’i rhestrwyd yn y 5 albwm gwerin gorau o 2023. Portread seicedelig o Gwm Elan ym Mhowys yw albym diweddaraf The Gentle Good. Fe'i hysgrifennwyd yn ystod preswyliad blwyddyn o hyd ym Mynyddoedd Cambria ac mae'n archwilio tirwedd, hanes a gwleidyddiaeth y dyffryn, a gafodd ei foddi ar ddiwedd oes Fictoria i greu cyfres o gronfeydd dŵr yfed. Mae'r albwm yn cynnwys band llawn, synths a llinynnau ac yn cyfuno dylanwadau roc gwerin, seic a phop i ddwyn i gof dirweddau dramatig Elan. Mae Gareth wedi perfformio ledled y byd, o Ŵyl Bywyd Gwerin Smithsonian yn Washington DC i Neuadd Cyngherddau'r Forbidden City yn Beijing. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi gweithio'n helaeth gydag artistiaid o Tsieina ac India. Torrodd ei albwm Y Bardd Anfarwol (2013) dir newydd gyda'i gyfuniad unigryw o farddoniaeth Cymraeg a cherddoriaeth draddodiadol Tsieineaidd. Sefydlodd y Khasi-Cymru Collective gydag artistiaid o'r cymunedau Khasi sy'n frodorol i Ogledd-ddwyrain India.

Tocynnau


Math o docynnau Pris (£)
Safonal £8.00
Consesiwn £5.00

I brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiad, cysylltwch â:

llanellyhill.hall@gmail.com


Gwefan Tocynnau:

https://www.ticketsource.co.uk/llanelly-hill-hall

Manylion y lleoliad


Cyfeiriad

Llanelly Hill Community Centre
Abergavenny
Sir Fynwy
NP7 0PW