Is There Anybody There
Lleoliad y digwyddiad: Theatr Fach,, Dolgellau
Dyddiad y digwyddiad
Amser y digwyddiad
Enw'r sioe: IS THERE ANYBODY THERE?
Dewch i gwrdd â seicig, plismon ac ysbryd sy’n hoff iawn o ymarfer corff mewn drama ddwyieithog newydd sydd yn delio gyda threialon y corff a'r enaid! Yn dod i dref yn agos i chi yn Wanwyn 2026
Enw’r perfformiwr: Triongl
Mae Triongl yn gwmni theatr sy'n cynnwys ei dri aelod sefydlol, Valmai Jones, Rebecca Knowles a Rebecca Smith-WIlliams. Fe ffurfiwyd Triongl ar ôl i'r dair gyfarfod fel actoresau llawrydd ar gydweithrediad gyda chwmni o Hong Kong i addasu stori fer gan George Orwell. Roeddent yn rhannu yr un syniadau am theatr a chymdeithas ac yn cydweithio yn dda gyda'u gilydd a greodd bartneriaeth berffaith. Mae'r cwmni wedi'i leoli yng Nghaerdydd ac yn Artistiaid Cyswllt Peilot gyda Chapter a gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae Triongl yn cydweithio i ddyfeisio gwaith newydd o theatr sy'n ymgysylltu â themâu cymdeithasol perthnasol mewn ffordd ysgafn. Mae Triongl yn creu gwaith yn y Gymraeg a'r Saesneg, pa bynnag iaith sy'n briodol ar gyfer y cynhyrchiad.
Manylion y lleoliad
Cyfeiriad
Theatr Fach,
Glyndwr Street
Dolgellau
Gwynedd
LL40 1BD




