The Frog Prince/Biwti a Brogs
Lleoliad y digwyddiad: Soar Centre
Dyddiad y digwyddiad
Amser y digwyddiad
Enw'r sioe: The Frog Prince/Biwti a Brogs
Adloniant rhagorol i blant 3-6 oed. Mae angen i bopeth fod yn berffaith, yn enwedig ar Ddydd Nadolig! Ac yn Nhre Melys, mae’n rhaid cael tri pheth perffaith er mwyn bod yn hapus – gwisg berffaith, coron berffaith a swyndlws perffaith. Dyna mae Biwti a’i Thad yn meddwl, beth bynnag. Pan mae Biwti’n cyfarfod Brogs, broga bach direidus, mae hi’n dechrau dysgu bod yna lawer o wahanol fathau o berffaith ac yn darganfod beth yw cyfrinach hapusrwydd go iawn. Yn llawn dop â chaneuon, chwerthin a hwyl; Mae’r hyfryd Biwti a Brogs / The Frog Prince gan Gwawr Loader yn ail-ddychmygu stori glasurol y Brodyr Grimm. Ymunwch â ni ar gyfer y sioe hudol a swynol hon, a berfformir mewn lleoliad anffurfiol. Y cyflwyniad delfrydol i ryfeddod theatr fyw i blant 3-6 oed. Perfformir sioeau ar wahân yn Gymraeg ac yn Saesneg. Cyd-gynhyrchiad rhwng Theatr y Sherman a Theatr Cymru.
Enw’r perfformiwr: Sherman Theatre
Bu sawl newid yn y Sherman yn ddiweddar; rydym bellach yn edrych i’r dyfodol yn eofn. Byddwn yn cynhyrchu dramâu clasurol a chyfoes, yn y prif dŷ ac yn y theatr stiwdio. Byddwn hefyd yn datblygu ac yn cynhyrchu ysgrifennu newydd, gyda ffocws cryf ar ddramodwyr Cymreig neu ddramodwyr sy’n byw yng Nghymru. Byddwn yn cyd-gynhyrchu gyda phartneriaid creadigol y mae eu gweledigaeth yn cydgordio â’n gweledigaeth ni, gan gynyddu effaith a chyrhaeddiad ein cynyrchiadau. Byddwn yn creu theatr a fydd yn siarad â dinasyddion Caerdydd, Cymru, a’r Deyrnas Unedig Ehangach
Manylion y lleoliad
Cyfeiriad
Soar Centre
Tylacelyn Rd
Penygraig
Rhondda Cynon Taf
CF40 1JZ