Rhiannon O'Connor a Bwca
Lleoliad y digwyddiad: Cegin Diod
Dyddiad y digwyddiad
Amser y digwyddiad
Enw'r sioe: Bwca
Band Cymraeg o'r gorllewin yw Bwca sydd wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd diwethaf. Rhyddhawyd eu ail albwm 'Hafod' yn 2023 ac maent wedi perfformio eu caneuon hynod fachog a llawn amrywiaeth ledled y wlad. Mae'r band yn cynnig rhywbeth at ddant pawb gyda chaneuon roc cyflym, caneuon canu gwlad gyda digon o fynd a chaneuon mwy tyner a swynol. O gynnal nosweithiau eu hunain yn llawn straeon a chwerthin i gefnogi'r bandiau mwyaf mae Bwca yn fand hyblyg a hawdd iawn i gydweithio gyda.
Enw’r perfformiwr: Bwca
Sefydlwyd Bwca gan Steff Rees o Aberystwyth fel prosiect cerddorol unigol dros flwyddyn yn ôl ond dros y misoedd diwethaf mae Bwca wedi esblygu mewn i fand 5 aelod. Mae senglau cyntaf Bwca sef Pawb di Mynd i Gaerdydd, Hoffi Coffi a Cno dy Dafod i’w clywed ar BBC Radio Cymru yn gyson ac wedi ennyn sylw cylchgrawn Y Selar. Fel band sydd yn cyfuno geiriau crafog, alawon bachog ac amrywiaeth o genres cerddorol o blŵs a canu gwlad i roc ac indî mae Bwca gyda rhywbeth at ddant pawb.
Manylion y lleoliad
Cyfeiriad
Cegin Diod
Yr Hen Farchnad, Carmarthen Street
LLandeilo
Sir Gaerfyrddin
SA196BJ





