Yoko Pwno and Lo-Fi Jones
Lleoliad y digwyddiad: The star of the sea
Dyddiad y digwyddiad
Amser y digwyddiad
Enw'r sioe: Yoko Pwno & Lo-fi Jones
Mae Liam Rickard (a.k.a. "Worldwide Welshman") yn edrych ymlaen yn fawr i iawn i groesawu ei ffrindiau, Yoko Pwno, i ganolbarth Cymru ym mis Chwefror! Band gwerin-amgen-elegtronic Albanaidd o Gaeredin a Dunbar yw Yoko Pwno. Maen nhw wedi bod yn difyrru cynulleidfaoedd yn eang ar draws yr Alban, Lloegr, Cymru ac Iwerddon! Mae nhw wedi chwarae wyliau weddol lleol yn cynnwys Gwyl Landed. Bydd 'na slot cymorth gan sêr lleol, Lo-fi Jones! Wnâi gadael i Yoko Pwno cyflwyno eu hunain: "Yn gyntaf.... – mae'r enw yn gael ei ynganu fel iow – cow – pow – now. Mae'n odli gyda "Yoko Ono", neu "Loco Bono". Ond nid pawb sy'n ein galw ni gyda'r enw hwn. Mae'r BBC wedi ein cyfeirio atom fel ‘one of Scotland’s most loved live acts’. Mi wnaeth Spiral Earth alw ni yn ‘trippy and pleasingly eclectic’. Dwedodd 'The National' ein bod yn rhoi egni newydd a heintus i gerddoriaeth draddodiadol. I'n ffrindiau a'n teulu, Helen, Lewis, Lissa, Calum, Dan, Gary a Sam ydan ni – saith ffrind ar genhadaeth i chwythu chi ffwrdd gyda'n cymysgiad o alawon gwreiddiol, caneuon, a'r math o guriadau "banging, wonky" sydd i glywed ar y sîn glybio Caeredin. Ers 2019, rydym wedi rhyddhau dau albwm ac wedi teithio dros y D.U., ac wedi cychwyn i wneud cyrchoedd i'r Tir Mawr. Mae'n uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys digwyddiadau mawr fel Boomtown Fair 2024, daith i'r ŵyl Wachelstein yn Awstria, a mwy tyrfaoedd hapus, dawnsiog na fedrwn ni cofio. Buon ni'n agor i Hot Chip mewn gig enfawr awyr agored yng Nglasgow yn 2023, hyd yn oed! Does 'na ddim llawer o grwpiau traddodiadol sy'n gallu dweud fod nhw wedi neud hynny!"
Enw’r perfformiwr: Lo-fi Jones
Band gwerin-indi-pop amlieithog o Fachynlleth yw Lo-fi Jones. Cafodd y band eu sefydlu yn 2020 gan ddau frawd barfog to Fetws-y-coed, Liam a Siôn Rickard. Maent yn perfformio yn Gymraeg a Saesneg yn bennaf, ac mae eu caneuon yn delio efo amrywiaeth o themâu yn cynnwys tyfu fyny yn y cefn gwlad, bywyd yn y ddinas fawr, newid hinsawdd, ymfudo, cymuned, a methiannau technolegol. Yn 2023, buon nhw yn ennill Brwydr y Bandiau Gwerin yn Eisteddfod Genedlaethol, cystadlu yn rownd derfynol Cân I Gymru, ac yn cael ei enwebu yn y Gwobrau Gwerin Cymru. Yn 2024, cafodd y band nodd gan y Gronfa Lansio Gorwelion Cymru. Mae Lo-fi Jones hefyd ar gael ar gyfer Twmpathau, gyda lwyth o ganeuon ac alawon traddodiadol Gymreig.
Manylion y lleoliad
Cyfeiriad
The Star of the sea
High Street
Borth
Ceredigion
SY245JF




