The Billy Thompson Trio - Royal Oak pub
Lleoliad y digwyddiad: Royal Oak pub
Dyddiad y digwyddiad
Amser y digwyddiad
Enw'r sioe: The Billy Thompson Trio
Mae'r Billy Thompson Trio yn fersiwn cwtog i raddau helaeth o'r band llawn (Billy Thompson Gypsy Style). Mae'r arlwy hon yn fwyaf addas ar gyfer lleoliadau llai lle mae angen awyrgylch hamddenol. Wedi dweud hynny, fel y gwelir ar y fideo cysylltiedig, efallai y bydd ychydig o alawon cyflym yn ymddangos. Gyda'r triawd, perfformir mwy o'r repertoire jazz clasurol. Mae’r Triawd wedi perfformio mewn llawer o leoliadau gwahanol o lwyfannau awyr agored Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, i Ŵyl Jazz Birmingham (fel y dangosir yn y fideo) i leoliadau mwy rhyng-gyfrannol megis festri eglwysi.
Enw’r perfformiwr: Billy Thompson
Band Jazz Sipsiwn yn perfformio cymysgedd o glasuron jazz sipsi ac alawon tanllyd Hwngari. Mae Billy Thompson Gypsy Style yn fand hynod, wedi ei leoli yng Ngogledd Cymru. Y band hwn yw menter y feiolinydd Billy Thompson i’w fersiwn o’r arddull ‘Gypsy Jazz’ neu ‘Hot Club’ o gerddoriaeth a grëwyd gan Django Reinhardt a Stêphane Grappelli. Mae'r band yn cynnwys aml-offerynwyr Eryl Jones (gitâr/mandolin), Andy Mackenzie (gitâr) a Greg Robley (bas). Mae Billy yn defnyddio meic radio ym mhob un o’i berfformiadau ac ar fwy nag un achlysur yn llythrennol mae wedi bod yn Ffidlwr ar y To.
Manylion y lleoliad
Cyfeiriad
Royal Oak pub
Rhandirmywn
Sir Gaerfyrddin
SA20 0NY

