Noson yng nghwmni Cleif Harpwood a Geraint Cynan
Lleoliad y digwyddiad: Capel y Tabernacl
Dyddiad y digwyddiad
Amser y digwyddiad
Enw'r sioe: Cleif Harpwood yng nghwmni Geraint Cynan
Noson acwstig ei naws, yn llais/lleisiau i gyfeiliant piano. Mae Cleif sy'n gyn aelod o'r grwpiau poblogaidd Edward H Dafis, Ac Eraill ac Injaroc yn cyflwyno hanes ei yrfa a'i fywyd, a chefndir caneuon fel 'Ysbryd y nos', 'Mistar Duw', 'Cân yn ofer', 'Pishyn' a 'Nia Ben aur'. Perfformir rhyw 14 o ganeuon i gyd gan Cleif a'r cerddor / cyfeilydd medrus Geraint Cynan. Yn 2025 fe fydd y ddeuawd yn cynnwys nifer o ganeuon newydd yn ei set yn sgil recordio casgliad newydd o gerddoriaeth.
Enw’r perfformiwr: Cleif Harpwood yng nghwmni Geraint Cynan
Canwr gwerin a roc a rol. Cyn aelod o'r grwpiau Ac Eraill, Edward H Dafis, Injaroc a H a'r Band (2012 - 2020). Fe oedd yr Osian gwreiddiol yn yr opera roc 'Nia Ben Aur'. Mae Cleif yn perfformio sesiynau acwstig yng nghwmni y cerddor adnabyddus Geraint Cynan. Mae eu cyflwyniad yn cynnwys caneuon poblogaidd o'r 1970au, fel 'Ysbryd y Nos', 'Mistar Duw', 'Cân yn ofer' a lllawer mwy o ganeuon cyfarwydd y cyfnod. Mae Cleif yn cyflwyno hanes y grwpiau poblogaidd hyn, ynghyd a hanesion personol o'i gyfrol diweddar 'Breuddwyd Roc a Rôl'. Noson ddifyr o ganeuon ac atgofion oddeutu 2 awr o hyd.
Manylion y lleoliad
Cyfeiriad
Derwen Road
Penybont ar Ogwr
Pen-y-bont
CF31 1 LH



