Seiniwn Hosanna

Lleoliad y digwyddiad: Canolfan Morfa Nefyn

Dyddiad y digwyddiad

Amser y digwyddiad

Image for show

Enw'r sioe: Sesiwn Hosanna yng nghwmni Arfon Gwilym, Sioned Webb a Mair Tomos Ifans

Perfformiadau o ganu Plygain yng nghwmni'r meistri, Arfon Gwilym, Sioned Webb a Mair Tomos Ifans, a hynny ar drothwy tymor y Plygain. Arfon Gwilym fydd yn datgelu hanes mesurau fel y Ceiliog Gwyn, Susan Lygatddu, Llygoden yn y Felin ac ati. Sioned Webb fydd yn egluro ieithwedd y canu carolau gan ddangos y gwahaniaeth rhwng carolau Plygain a charolau cyfoes. Mae Mair Tomos Ifans wedi darganfod carolau Plygain mewn hen gyfnodolion a chasgliadau personol, carolau nad ydynt wedi gweld golau dydd ers blynyddoedd.

Enw’r perfformiwr: Arfon Gwilym

Yn ganwr gwerin o deulu cerddgar o Sir Feirionnydd, mae gan Arfon stor o alawon gwerin ar ei gof, ac wrth ganu cerdd dant, mae'r geiriau a'r ysbryd yn bwysicach iddo na chadw at lythyren y rheolau

Tocynnau


Math o docynnau Pris (£)
Safonal £5.00

I brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiad, cysylltwch â:

helen@beca-tv.com


Gwefan Tocynnau:

Manylion y lleoliad


Cyfeiriad

Y Ganolfan
Morfa Nefyn
Pwllheli
Gwynedd
Ll53 6AP