The Window from Wales - Noson Ddwyieithog

Lleoliad y digwyddiad: Neuadd yr Ysgol, Llanfihangel-ar-arth

Dyddiad y digwyddiad

Amser y digwyddiad

Image for show

Enw'r sioe: The Window From Wales

Sioe bwerus, yn Saesneg am ddigwyddiad erchyll yn 1963 Alabama wnaeth gynnau fflam o dosturi yng nghalon un artist o Gymru. Dyma stori John Petts, y ffenest liw, a rhodd gan bobl Cymru wnaeth sefyll yn erbyn hiliaeth ac anghyfiawnder mewn cyfnod tywyll iawn. Ond hanner canrif yn diweddarach, mae'n rhaid gofyn, i ba raddau mae pethau wedi newid ?

Enw’r perfformiwr: Mewn Cymeriad/In Character

Mae Mewn Cymeriad yn gwmni theatr sy’n llwyfannu sioeau am gymeriadau a straeon o hanes Cymru Pan gychwynnodd y cwmni nôl yn 2014, y bwriad oedd darparu sioeau rhyngweithiol, un dyn/un ferch, i ysgolion cynradd trwy Gymru gyfan, gan gynnig awr addysgiadol ac adloniadol i blant. Erbyn hyn, mae gan y cwmni ystod eang o gyflwyniadau dramatig ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol, yn blant ac oedolion, oll yn canolbwyntio ar gymeriad neu stori o hanes Cymru – o gyfnod y Celtiaid i gofnodi 20 mlynedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Man cychwyn yw’r sioeau ar gyfer astudiaeth bellach, ac i gydfynd â phob cymeriad mae pecyn addysgol/gweithgareddau wedi’i baratoi yn ofalus fel ei fod yn berthnasol i ofynion llythrennedd a rhifedd y cwricwlwm Cymreig, gan ddarparu adnoddau newydd i athrawon i addysgu ac i ysbrydoli plant i ddysgu mwy am hanes Cymru.

Tocynnau


Math o docynnau Pris (£)
Safonal £9.00
Consesiwn £4.00

I brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiad, cysylltwch â:

Tocynnau gan meinir@cadwyn.com 01559-384378


Gwefan Tocynnau:

Manylion y lleoliad


Cyfeiriad

Neuadd yr Ysgol
Llanfihangel-ar-arth
Pencader
Sir Gaerfyrddin
SA399JU