Noson yng Nghwmni Sian James

Lleoliad y digwyddiad: Cletwr

Dyddiad y digwyddiad

Amser y digwyddiad

Image for show

Enw'r sioe: Noson gyda Sian James

Noson o gerddoriaeth gwerin a gwreiddiol i gyfeiliant y delyn a'r piano gan y gantores o Faldwyn.

Enw’r perfformiwr: Sian James

Siân yw'r amlycaf o gantorion gwerin Cymru. Erbyn hyn mae hi wedi rhyddhau deg albym o'i gwaith – pedwar albym gyda Recordiau Sain; Birdman gyda BBC Worldwide (comisiwn arbennig o gerddoriaeth gwreiddiol a thraddodiadol i BBC2); Pur, Y Ferch o Bedlam, Adar ac Anifeiliaid, sef casgliad o hwiangerddi i blant, Cymun, Gosteg ar ei label Recordiau Bos. Meddai Siân... "Mae cerddoriaeth wastad wedi bod yn ran annatod o'm mywyd. Fe'm magwyd ar aelwyd gerddorol ac yn fuan iawn dechreuais ganu’r piano, y ffidil a'r delyn. Dechreuais gyfansoddi caneuon a chreu trefniannau newydd o ganeuon gwerin a darganfod pleser mawr wrth greu ac arbrofi wrth y delyn a'r piano. Mae fy nhgariad at ganeuon gwerin yn gynhenid imi erbyn hyn ac er bod gennyf hoffter mawr at bob math o gerddoriaeth erys cerddoriaeth gwerin fel rhyw fath o rym bendigedig nad yw’n bosib dianc rhagddo. Cerddoriaeth fy ngwlad yw fy hafan rhag fedlam bywyd!"

Tocynnau


Math o docynnau Pris (£)
Safonal £10.00
Consesiwn £5.00
Consesiwn £0.00

I brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiad, cysylltwch â:

Cletwr


Gwefan Tocynnau:

Manylion y lleoliad


Cyfeiriad

Cletwr
Tre'r Ddôl
Machynlleth
Ceredigion
SY20 8PN