Gwen yr Arth Wen

Lleoliad y digwyddiad: Caerphilly Library

Dyddiad y digwyddiad

Amser y digwyddiad

Image for show

Enw'r sioe: Gwen yr Arth Wen

Mae Gwen, arth wen bryderus, yn deffro ar gap iâ sydd wedi torri gannoedd o filltiroedd i ffwrdd oddi wrth ei theulu. Ar ei thaith beryglus drwy'r môr arctig, bydd yn rhaid iddi ddod o hyd i'w dewrder, yn ogystal â'i ffordd adref. Yn dilymn grant llwyddiannus gyda'r CCC, mae’r perfformiad ar gael ar gyfer taith ganolfannau Gwanwyn 2026.

Enw’r perfformiwr: Christopher Harris

Mae Chris yn awdur, cyfieithydd a chyfarwyddwr. Mae wedi derbyn Gwobr Ysgrifennu Drama Richard Carne. Mae ganddo BA o Brifysgol Aberystwyth, MA o Brifysgol Amsterdam, a hyfforddodd fel dramodydd gyda Grŵp Ysgrifennu Drama Theatr y Sherman, 2016 - 2018. Ymhlith ei ddramâu mae: ‘Cariad yn Oes y Gin’ (Theatr Bara Caws), 'Golygfeydd o'r Pla Du' (Theatrau Sir Gar), 'Gwlad! Gwlad! (Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen) a 'Gwen yr Arth Wen' (Sefydliad y Glowyr Coed Duon). Ar hyn o bryd mae'n datblygu: 'Y Boi Madfall' (Theatr Iolo), 'Trwbl Mawr yn Nhremyglyd' a 'Gomorrah' (Grant Sefydliad Peggy Ramsay). Mae hefyd wedi cyfieithu ar gyfer cynllun Playhouse Theatr Iolo ac wedi ysgrifennu sgriptiau Sibrwd i Theatr Genedlaethol Cymru ar gyfer 12 cynhyrchiad. Mae hefyd yn ysgrifennu ar gyfer y radio: ‘Gwen yr Arth Wen’ (BBC Radio Cymru), ‘Tic Toc’ (Boom Cymru/BBC Sounds), ‘The Atlantis Project’ (AM/Sir Gar/Open Drama UK). Cynhyrchwyd ei ffilm gyntaf 'Milodfa' gan S4C, BBC Cymru a bydd 'It's My Shout' yn cael ei ddarlledu ar S4C a BBC iPlayer ym mis Tachwedd 2024. Mae’n eistedd ar Fwrdd Theatr Bara Caws, Bwrdd Ymgynghorol Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac yn aelod o TYA Cymru. Cynrychiolir Chris gan Louisa yn LJP Management.

Tocynnau


Math o docynnau Pris (£)
Safonal £3.00
Consesiwn £2.00

I brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiad, cysylltwch â:

Caerphilly Library, 2 The Twyn, Caerphilly CF83 1JL / 02920 853911 / libcaer@caerphilly.gov.uk


Gwefan Tocynnau:

Manylion y lleoliad


Cyfeiriad

2 The Twyn
Caerphilly
Caerffili
CF83 1JL